Wedi'i gwblhau
4CG yn Cefnogi Prynu Tabernacl Aberteifi – Hwb Aberteifi
Yn 2025, helpodd 4CG i ffurfio menter gymdeithasol newydd a chychwyn a gweinyddu cynnig cyfranddaliadau i brynu'r Tabernacl a'r adeiladau cysylltiedig yng nghanol Aberteifi. O fewn ychydig fisoedd, codwyd y cyfalaf oedd ei angen i brynu a sicrhaodd 4CG y gwerthiant ar ran cwmni newydd ei ffurfio o'r enw Hwb Aberteifi.
Bydd Hwb Aberteifi yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau i ffurfio gofod cymunedol, cartref (gan ddefnyddio'r tŷ) a chanolfan farddoniaeth o ystâd y Tabernacl.

