Ystafelloedd

Mae 4CG wedi prynu sawl adeilad o gwmpas Pwllai yn Aberteifi, sy'n cael eu defnyddio gan busnesau lleol.

Lleoliadau ar gael

Chwilio am swyddfa breifat yng nghanol y dref? Ar hyn o bryd mae gennym un swyddfa ar gael yn yr Hen Orsaf Heddlu.

Dyma'r lleoliad perffaith i unrhyw un sy'n chwilio am weithle canolog, pwrpasol. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni i gael gwybod mwy, neu mae croeso i chi alw heibio i gael golwg o gwmpas!