← Yr holl brosiectau
Wedi'i gwblhau

Partneriaeth y Dre

Partneriaeth y Dre

Yn 2016, sefydlodd 4CG bartneriaeth canol tref a dod ag amrywiaeth o randdeiliaid Aberteifi, atyniadau twristaidd, celfyddydau, masnachwyr a chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chyngor tref i'r bwrdd. O'r cyfarfodydd chwarterol hyn, ariannwyd a chyflawnwyd camau gweithredu ar amrywiaeth o brosiectau canol tref megis system cardiau teyrngarwch, y wifi a'r ap fel y soniwyd eisoes. Hefyd, cychwynnodd y bartneriaeth nifer o ddigwyddiadau newydd ar gyfer calendr blynyddol Aberteifi. Yng Ngwobrau Great British High Street 2018, cafodd Aberteifi Ganmoliaeth Uchel – yr ail yng Nghymru, y tu ôl i'r Bont-faen.